Searchlight Cymru Hope Not Hate

HOPE not hate: Celebrating modern Britain
HOPE not hate
Celebrating modern Britain

Tom Jones a Rhyfel YsbaenTom Jones a Rhyfel Ysbaen

Am yr awdur

Ganed Tom Jones (1908-90) yn Sir Gaerhirfryn ond cafodd ei fagu ym mhentref glofaol Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych. Ym 1937 aeth i Sbaen ac ymunodd 'r Brigdau Rhyngwladol i ymladd ar ochr Llywodraeth Weriniaethol Sbaen yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen (1936-9). Ymunodd dros 2350 o wirfoddolwyr Bataliwn Prydeinig y Brigdau Rhyngwladol gan ymladd yn nifer o frwydrau mawr y rhyfel. Yn y frwydr olaf ar lannau Afon Ebro ym mis Gorffennaf 1938, anafwyd Jones a chafodd ei ddal gan y Ffasgwyr. Roedd ei deulu o'r farn ei fod wedi cael ei ladd, ac yn wir cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth, ond newidiwyd y ddedfryd i 30 mlynedd o garchar. Yn y pendraw, cafodd ei ryddhau o'r carchar ym 1940 yn dilyn cytundeb rhwng llywodraethau Prydain a Sbaen. Yn dilyn hyn, cafodd Tom Jones ei alw yn 'Twm Sbaen'.

Ar l iddo ddychwelyd i Gymru, dechreuodd Jones chwarae rhan weithgar yn y mudiad llafur. Cafodd ei benodi'n swyddog llawn-amser gydag Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol (TGWU) yng ngogledd Cymru ac ym 1953, fe'i benodwyd yn ysgrifennydd yr undeb yn rhanbarth gogledd Cymru, gan olynu Huw T. Edwards. Yn dilyn uno rhanbarthau gogledd a de Cymru, daeth Jones yn ysgrifennydd ar yr undeb yng Nghymru. Arhosodd yn y swydd hon hyd ei ymddeoliad ym 1973.

Gwyn Jenkins, 'Obituary: Tom Jones (1908-90)', 'Llafur', cyf. 5, rhif 4 (1991), 109


'NO PASARAN! VIVA LA REPUBLICA!'

gan Tom Jones

I

Mewn drr yn ein t? ni mae tystysgrif, wedi ei harwyddo gan swyddog Gwerinlywodraeth Sbaen yn ystod mis Medi 1938, yn tystio fy mod wedi cael fy nienyddio. Anfonwyd y dystysgrif i fy Mam, ac aeth hithau i godi'r arian yswiriant, ond, fel sy'n wir am bob mam mae'n debyg, ni allai gredu fod ei mab wedi marw. A phan gyrhaeddais gartref yn y flwyddyn 1940 dyna lle'r oedd yr arian yn fy aros; ond 'roedd fy mam wedi marw erbyn hynny, a fy nhad hefyd.

Yr oeddwn wedi mynd allan i Sbaen yn 1937, hefo nifer o wirfoddolwyr eraill i helpu'r weriniaeth yno i ymladd yn erbyn Ffasgiaeth rhyngwladol. Gyda chymorth Mussolini a Hitler yr oedd Franco yn ymosod yn chwyrn ac yn anghyfreithlon ar y llywodraeth weriniaethol; ac yr oeddem ni yn ymwybodol iawn mai rihyrsal oedd hyn i gyd ar gyfer ymosodiad mwy gwaedlyd fyth gan y Ffasgiaid ar Ewrop gyfan -os nad ar y byd i gyd.

Gyda'r lleill teithiais i Lundain i gynnig fy ngwasanaeth, a chawsom ein rhybuddio nad chwarae plant oedd y rhyfel yn Sbaen, ac y dylem feddwl yn ddifrifol am y peth cyn mynd ymhellach. Yn y lle cyntaf yr oeddem yn torri cyfraith ein gwlad ein hunain drwy ymuno byddin yn Sbaen.

Fodd bynnag, dyma fi, gyda nifer o fechgyn ifanc eraill, yn mynd dros y Sianel i Baris, gyda thocyn penwythnos (ni oedd angen passport ar daith felly), bob un ohonom yn teithio ar wahn rhag tynnu sylw gw?r y CID a oedd yn gwylio yn y porthladd. Ym Mharis, yn ymyl y Place du Combat, cefais gyfarfod tua 400 o fechgyn eraill oedd 'u bryd ar yr un daith anghyfreithlon. Trefnwyd i ni gael ein smyglo yn grwpiau bach dros y ffin o Ffrainc i Sbaen ac ym mhen amser daeth tro'r gr?p yr oeddwn i yn perthyn iddo. Ar l taith digon anturiaethus daethom o fewn cyrraedd y ffin, a dyna lle'r oedd yr heddlu yn aros amdanom. Yr oedd un o'r gr?p yn gallu siarad Ffrangeg ac esboniodd i swyddog yr heddlu mai twristiaid oeddem, ond gan nad oedd gennym na passport nag unrhyw ddogfen arall i gadarnhau'r honiad, cymerwn ni i gyd mewn cyffion i garchar yn Perpignon. Cyn bo hir clywodd trigolion Perpignon amdanaom ac ym mhen dim amser yr oedd tyrfa fawr o amgylch y carchar yn galw am i ni gael ein rhyddhau.

Hen adeilad budr oedd y carchar, a dedfrydwyd i ni gael ein cadw yno am dair wythnos, ond cawsom amser lled gysurus yno drwy garedigrwydd pwyllgor lleol oedd yn bleidiol i'r achos gwrth-ffasgaidd. Anfonwyd anrhegion o fwyd a sigarennau i ni bron yn ddyddiol.

Daeth diwrnod ein rhyddhau, ac er mawr syndod i ni, nid oedd unrhyw drefniant wedi ei wneud i'n hanfon allan o'r wlad. Y cyfan a ddywedwyd oedd mai yn l yn y carchar y byddem pe delid ni eto yn ceision croesi i Sbaen. Fodd bynnag, cyfeirio ein traed tua'r ffin a wnaethom, a buom yn llwyddiannus y tro hwn, a chyrraedd Barcelona lle y cawsom groeso di-bendraw.

Ar y cychwyn gosodwyd fi yng nghatrawd y milwyr traed o'r Frigd Ryng-genedlaethol lle y bm o dan hyfforddiant am rai wythnosau, ond wedyn dewiswyd rhai ohonom i ffurfio uned arbennig i ymladd tanciau. Magnelau Rwsiaidd oedd gennym yn yr uned honno, ac yr oeddynt yn hynod o effeithiol. Buom yn ymladd am fisoedd a'r brwydro yn troi weithiau o'n plaid ond y rhan amlaf yn mynd yn ein herbyn. Yna daeth brwydr Brunete, yn ymyl Madrid, ac am y tro cyntaf gallem deimlo o ddfrif fod y llanw yn troi o'n plaid. Llwyddwyd i ennill milltiroedd o dir oddi ar y gelyn, a chipio str enfawr o arfau o bob math, er gwaethaf yr awyrennau Almaenig ac Eidaleg a oedd fel pe baent yn llanw'r awyr ac yn ein bomio yn ddidrugaredd. Parhaodd y frwydr am fis cyfan ac yr oedd y colledion yn erchyll ar y ddwy ochr. Yr oedd maes y gad yn gyrff i gyd a'r drewdod bron yn annioddefol. Collodd ein huned ni hanner ei haelodau drwy farwolaeth a chlwyfau.

Wedi i'r frwydr ddod i ben cawsom dair wythnos o seibiant mewn pentref bach y tu allan i Madrid, a dyna pryd y sylweddolais am y tro cyntaf ddewrder eithafol gwerin Sbaen, a maint ei haberth wrth geisio amddiffyn ei llywodraeth gyfreithlon yn erbyn barbareidd-dra ei gelynion Ffasgaidd. Yno hefyd y sylweddolais gyntaf yr ymdrech a wnaeth y llywodraeth honno i wella bywyd bobl gyffredin yn Sbaen, a maint y diwygiadau oedd wedi cymryd lle mewn cylchoedd addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol yn y cyfnod byr y bu'r llywodraeth mewn awdurdod; a'r gwaith yn parhau i fynd ymlaen er gwaethaf y rhyfel -rhyfel erchyll lle'r oedd y fantol mor annheg o blaid y gelyn.

Yn ystod Ionawr a Chwefror 1938 buom yn ymladd yn y mynyddoedd uchel o amgylch Ternel yng nghanol eira a gwyntoedd mor finiog o aeafol fel yr oedd yn anodd anadlu bron. Wedyn bu raid i ni symud yn frysiog i Aragon lle'r oedd y Ffasgiaid yn bygwth torri drwy ein hamddiffynfeydd, ond yr oedd yn rhy hwyr erbyn i ni gyrraedd yno a bu raid i ni ildio llawer o dir i'r gelyn. Drwy fisoedd Mawrth ac Ebrill, bu raid i'r Frigd Ryng-genedlaethol a holl fyddin y llywodraeth dynnu yn l yn wyneb ymosodiadau ffyrnig unedau tanciau o'r Almaen a'r Eidal a gw?r meirch o Morrocco. Dros fryn a dyffryn, drwy dydd a nos, gan ymladd bob cam o'r ffordd bu raid i ni dynnu yn l am dros 300 milltir. Yr oedd yn rhaid cadw'r gelyn draw mor hir ag oedd yn bosibl er mwyn rhoi cyfle i'r boblogaeth -yr hynafgwyr, gwragedd a phlant -ffoi i ddiogelwch. Llwyddwyd i arafu ychydig ar y Ffasgiaid drwy ddinistrio pob pont ar yr afon Ebro; ond yn y diwedd nid oedd modd i'w rhwystro rhag rhannu Sbaen yn ddwy, a bu hyn yn ergyd ofnadwy i'r llywodraeth.

Yn ystod y brwydro hyn collodd y Frigd Ryng-genedlaethol gannoedd o'i milwyr -rhai wedi eu lladd, eraill wedi eu clwyfo a nifer fawr yn syrthio yn garcharorion i ddwylo'r gelyn. Yr oedd colledion byddin y llywodraeth yr un mor erchyll.

Wynebwyd y llywodraeth wedyn 'r dasg enfawr o sicrhau lloches i dros filiwn o ffoaduriaid o drefi a phentrefi Aragon.

O ganlyniad i hyn bu cynnydd o dros ddwy filiwn a hanner ym mhoblogaeth dinas Barcelona. Ac yr oedd yn anodd cael bwyd i bawb, oherwydd yr oedd awyrennau bomio o'r Eidal yn ymosod ar bob llong a geisiai ddod bwyd a nwyddau eraill i mewn i'r porthladd. Digwyddai yr un peth ym mhorthladd Valencia. Yno yr oedd yr harbwr yn llawn o longau wedi eu suddo gan y bomio.

Yr oedd tactegau'r Ffasaidd yn ddidrugaredd. Gollyngwyd bomiau yn hollol fwriadol ar bentrefi a threfi oedd yn gwbl ddi-amddiffyn gyda'r amcan o greu braw ac ofn a niweidio neu ladd gwragedd a phlant. Ond serch hynny ni lwyddwyd i dorri calonnau'r werin bobl. Arwyddair pawb oedd 'No Pasaran' -'Ni chant fynd heibio'.

'Roeddwn yn Barcelona yn 1938 am ychydig o ddyddiau o seibiant, a daeth awyrennau bomio o'r Eidal drosodd ar gyrch am dri diwrnod a thair noson buont yn bomio canol y ddinas gan ladd 4,000 o'r trigolion -yn w?r, gwragedd a phlant -a dinistrio cartrefi a llawer o adeiladau hardd sy'n y dref honno. Digwyddai'r math hwn o anfadwaith yn gyson ar hyd a lled Catalonia a holl diriogaeth y Werinlywodraeth. Lladdwyd miloedd o bobl ddiniwed gan awyrennau'r Almaenwyr a'r Eidalwyr, ac ni chafwyd o lywodraethau democrataidd y byd ddim ond protestiadau gwan ac aneffeithiol ar bapur, o'r tu cefn, fel pe tae, i ryw orchudd o ffug niwtraliaeth. Ond hyd yn oed yn y dyddiau creulon hynny, ceisiodd y llywodraeth ad-drefnu ei byddinoedd a pharatoi am ymosodiad newydd ar y gelyn. Yn ystod mis Gorffennaf 1938, llwyddodd ei lluoedd i groesi yn l i'r ochr arall o'r afon Ebro, a'r Frigd Ryng-genedlaethol a chatrodau mwyaf profiadol y fyddin Werinlywodraethol yn arwain y ffordd. Erbyn hyn yr oeddem ni wedi colli ein magnelau; dinistriwyd hwy yn y cyrchoedd awyr, ac yr oeddem yn dibynnu ar ddrylliau automatic.

Yr oedd croesi'r afon Ebro yn orchest wych o wrhydri milwrol. Aethom dros yr afon yn ystod y nos mewn cychod bach; ein hunig arfogaeth oedd drylliau a bomiau llaw, a gyda'r rhain llwyddwyd i ymosod ar ffosydd ac amddiffynfeydd y gelyn a'u goresgyn. Nid oedd gennym na magnelau mawr nag awyrennau i'n cynnal yn yr ymgyrch, ond, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau anfanteisiol hyn cawsom fuddugoliaeth. Ar hyd ffrynt o 50 milltir aethom ymlaen am 30 milltir i diriogaeth y gelyn mewn dau ddiwrnod a chymryd dros 10,000 o garcharorion.

Lleufer Cyf.XXVI. Rhif 1. 1974-75


II

Ychydig iawn wedi i ni ennill ein buddugoliaeth ar yr afon Ebro daeth y gelyn yn l i geisio adennill y tir, ac ar l tri mis a hanner o frywdro ffyrnig bu raid i ni ei ildio yn l i'r Ffasgiaid. Yr oedd y gyflafan yn erchyll. Collwyd tua 200,000 o ddynion ar y ddwy ochr. Hon mewn gwirionedd oedd brwydr olaf y Rhyfel Cartref yn Sbaen, a phe bai'r llywodraeth wedi gallu dal ei thir yn y fan hon am fis arall diau y buasai fy stori heddiw wedi bod yn wahanol iawn.

Yn ystod y frwydr hon syrthiais i ddwylo'r gelyn. Cychwynnodd y frwydr tua chanol mis Gorffennaf 1938, ac aeth ymlaen drwy fis Awst ac i ddyddiau cynnar mis Medi. Anfonwyd fi un diwrnod gyda'm cyd-filwyr i geisio amddiffyn rhes o fryniau gydag Brigd Sbaeneg. Yr oeddem wedi bod yno yno am ddiwrnod neu ddau pan, gyda'r wawr un bore, ymosododd y gelyn arnom. Yr oedd Almaenwyr yn tanio magnelau arnom ac awyrennau o'r Eidal yn ein bomio yn ddi-ddrugaredd. Yna daeth gw?r traed y gelyn i geisio cipio ein ffosydd; buont yn ymosod ar l tro a ninnau yn llwyddo i'w cadw yn l. Fodd bynnag, heb yn wybod i ni, yr oedd rhai o filwyr y gelyn wedi llwyddo i dorri trwodd ar y dde i'n safle ni, ac yn ddisymwth gwelsom ein bod wedi ein hamgylchynu. Penderfyn i barhau i frwydro ymlaen a wnaethom, er mwyn ceisio dal y gelyn yn l; hefyd, yn l pob hanes a gawsom, 'doedd dim lle i ddisgwyl unrhyw drugaredd pe cymerwyd ni yn garcharorion. Yr oedd ein sefyllfa yn frawychus o anobeithiol. Yr oedd ergydion y gelyn yn dod atom o bob cyfeiriad, a buom ninnau yn tanio yn l gyda'n drylliau ac yn taflu llaw-fomiau atynt. Buom yn ymladd fel dynion gwallgof, a'r ffos yn llawn o gyrff ein meirw a'n cyd-filwyr clwyfedig, a'r gelyn yn dod yn agosach ac yn agosach. Yna daeth y diwedd. Yr oedd ein bwled olaf wedi ei thanio a'r llaw-fom olaf wedi ei thaflu, a 'doedd dim i'w wneud ond galw ar y gelyn a dweud bod ni yn ildio. Galwyd arnom i sefyll a rhoi ein dwylo i fyny, gwnaethom hynny, ac mewn eiliad taniodd y gelyn arnom, a thaflwyd nifer o law-fomiau i ffrwydro yn ein plith. Cefais fy nghlwyfo yn ddifrifol yn fy mraich dde ac yn fy nghoes chwith. Yna symudodd y gelyn ymlaen heibio i ni a'n gadael heb wneud unrhyw ymdrech i sicrhau a oedd rhai ohonom yn fyw ai peidio. Yr oeddwn bron yn methu credu fy mod i fy hunan yn fyw. Yr oedd y gwaed yn pistyllio o'm braich a'm coes, a gwaed rhai o'm cyd-filwyr wedi ei daenu dros fy nillad a'm wyneb. Dim ond un dyn arall oedd yn gallu siarad, a bu yntau farw ymhen ychydig funudau. Yna cododd corporal o Sbaenwr ar ei draed, er ei fod wedi ei niweidio'n ddifrifol, a'r gwaed yn pistyllio o'i ystumog, gan fwtran rhywbeth fel 'Mae'n rhaid i ni symud oddi yma', cymerodd ddau gam ymlaen a syrthio'n farw. Fi oedd yr unig un ar l. Ceisiais hel fy meddyliau at ei gilydd, a thynnu o'm pocedi ynrhyw fath o bapurau a fuasai yn fy ngosod mewn sefyllfa beryglus pe baent yn syrthio i ddwylo'r Ffasgiaid. Hefo'm llaw chwith crefais dwll yn y ddaear a'u claddu yno. Yna cymerais hances boced oodi ar un o'r cyrff oedd yn gorwedd yn agos a cheisiais rwymo'r clwyf yn fy mraich ac arafu tipyn ar y llif gwaed. 'Doedd dim i'w wneud wedyn ond aros a gobeithio am y gorau. Ymhen ychydig iawn daeth rhai o filwyr y gelyn heibio eto, a'r tro hwn cymerwyd fi yn garcharor.

Wedi iddynt fy holi a'm croes-holi cefais driniaeth i'm clwyfau -a thriniaeth digon afler ydoedd hefyd. Yna cymerwyd fi i ysbyty carcharorion rhyfel yn Saragossa, lle y cadwyd fi am bum niwrnod. Yr oedd y driniaeth a'r bwyd a gefais yno yn ofnadwy -ond 'roedd yn well na'r hyn oedd yn fy nisgwyl wedyn.

Ar ganol nos, Tachwedd 21, 1938, cymerwyd fi gan y Gwarchodlu Sifil i'r carchar sifil yn Saragossa. Cofiaf yn fyw iawn hyd heddiw imi gyrraedd yno am ddau o'r gloch y bore. Cofrestrwyd fy enw a manylion eraill amdanaf yn y fynedfa ac yna i mewn i'r carchar drwy'r drysau mawr haearn. Cofiaf am byth y drewdod a ddaeth i'm ffroenau wrth imi fynd i mewn -arogl ffiaidd o gyrff drewllyd dynion a fu heb gyfleusterau i ymolchi na glanhau eu hunain ers wythnosau, efallai ers misoedd. Yr oedd pobman yn y lle yn llawn o garcharorion newynog a'u cyrff yn fyw hefo chwain a phryfetach eraill. Ym mhob dormotori yr oedd rhywle rhwng 200 a 400 o garcharorion yn ceisio cysgu, ac yr oedd pob dormotori yng ngofal rhyw fath o is-swyddog. Deellais wedyn mai o blith y carcharorion sifil y dewiswyd yr is-swyddogion hyn -lladron, rheibwyr a llofruddion -a gosodwyd y rhain mewn awdurdod dros y carcharorion rhyfel gyda'r hawl i'w cosbi a hyd yn oed i'w chwipio. Yr oedd gan bob carcharor rhyfel rhyw ddeunaw modfedd yr un o le ar y llawr i orwedd, ond 'roedd gwely go iawn gan bob un o'r is-swyddogion.

Adeilwyd y carchar yn Saragossa yn wreiddiol ar gyfer 250 o garcharorion. Rhwng Tachwedd 1938 a Mawrth 1939 -y cyfnod a dreuliais yno -ni fu llai na 4,500 o garcharorion rhyfel yno, gan gynnwys 500 o wragedd a 52 o fabanod.

Yr oeddem i gyd mewn cyflwr aflan, a dim ond un 'lle chwech' ar gyfer pob 350 o garcharorion. Y lle mwyaf ofnadwy oedd ysbyty'r carchar -dim ond gwelyau ar gyfer deg ar y tro -ac anaml y gwelid unrhyw un yn dod oddi yno yn fyw. Flangellwyd y carcharorion am y peth lleiaf, ac yr oedd pobl yn marw yno wrth y degau. Oherwydd diffyg cyflenwad o ddwr glan yr oedd bron pawb yn dioddef o glefydau ar y croen. Yr oedd cyflwr y gwragedd yn waeth na chyflwr y dynion: yr oeddynt yn gorfod dioddef pob math o sarhad ac anfoesgarwch. Yr oedd y bwyd yn ofnadwy o wael.

Ar Ionawr 30, 1939, cymerwyd fi o flaen tribiwnlys, ar gyhuddiad o fod wedi ymyrryd o'm gwirfodd yn anghyfreithlon fel estron yn y rhyfel yn Sbaen, a dedfrydwyd fi i farwolaeth. Os oeddwn i wedi ymyrryd yn anghyfreithlon, beth am yr Eidalwyr a'r Almaenwyr oedd yn ymladd dros Franco? Ac onid oedd Franco yn wrthryfelwr yn erbyn llywodraeth gyfreithiol Sbaen? Ond nid cyfiawnder oedd yn rheoli bellach yn Sbaen druan.

Yr oeddwn erbyn hyn wedi mynd y tu hwnt i boeni am fy mywyd fy hun; yr oeddwn yn newynog oherwydd diffyg bwyd a'r clwyfau yn parhau i'm blino. Meddyliais y buasai cael fy saethu yn fath o waredigaeth. Ar y pryd credwn y buasai hynny yn well o lawer na gorfod dioddef mwy o sarhad a chael fy nghamdrin yn y carchar. Yr oedd llawer o'm cyfeillion eisoes wedi eu lladd yn y brwydro, neu wedi eu saethu gan y firing squad -y rhan fwyaf o'r rhain wedi wynebu marwolaeth 'r geiriau 'Hir oes i ryddid', neu 'I lawr Ffranco, y cigydd Ffasgiaidd', ar eu gwefusau.

Cymerwyd fi yn l i'r carchar, ac yno y bm wedyn tan Mawrth 30, 1939, pryd, heb unrhyw esboniad na rhybudd o unrhyw fath cefais neges fod y ddedfryd wedi ei newid; yn lle cael fy saethu yr oeddwn i aros yn y carchar am 30 mlynedd! Ychydig dyddiau wedyn symudwyd fi i garchar Burgos. Yn ystod yr holl gyfnod y bm yn garcharor ni chaniatawyd i mi anfon llythyr nac unrhyw fath o neges allan i neb -dim hyd yn oed i sefydliad y Groes Goch. Ond llwyddais yn y diwedd i anfon negesau dirgel allan, a rhywsut neu'i gilydd daeth pobl ym Mhrydain i wybod fy mod yn fyw.

Yn ystod y chwe mis y bm yn Saragossa, nod oedd gennyf ond un pr o sandalau, un trowser a chrys, a bu'r rhain heb eu golchi na'u glanhau o gwbl. Yr oeddwn yn fudr a drewllyd. Yn Burgos yr oedd pethau ychydig yn well, er fod hwn hefyd yn orlawn -dros 5,000 o garcharorion mewn adeilad a godwyd ar gyfer 500. Pan gyrhaeddais yno deellais fod 600 o'r carcharorion yn aros y firing squad, a saethwyd bron y cyfan ohonynt ddiwrnod neu ddau cyn Nadolig 1939.

Yn y dyddiau hynny yr oedd Sbaen i gyd fel un gladdfa fawr. Amcangyfrifwyd fod 1,300,000 o werinwyr Sbaen wedi eu caethiwo fel anifeiliaid yng ngharcharau Ffranco, heb obaith cael eu rhyddhau -a Ffranco yn ei ddisgrifio ei hun fel Cenedlaetholwr Cristionogol!

Unwaith y daeth fy nheulu i wybod beth oedd fy sefyllfa gwnaethpwyd ymdrechion i'm cael yn rhydd. Mae arnaf ddyled o ddiolch na allaf byth ei thalu i'r diweddar Robert Richards AS, Cyril O. Jones, Wrecsam, Ness Edwards AS, ac i James Idwal Jones AS, a llu o bobl dda eraill am eu gwaith egniol drosof. Cefais fy rhyddhau yn y diwedd, a chyrraedd fy hen gartref yn l ym mis Ebrill 1940 i ddarganfod, fel y dywedais uchod, fod fy rhieni wedi marw yn y cyfamser, a bod cymylau rhyfel wedi cyrraedd Prydain erbyn hynny; ond yr un rhyfel ydoedd o hyd mewn gwirionedd. Yr oedd y Ffasgiaid wedi ymestyn eu hymosodiadau o Sbaen i'r gweddill o Ewrop.

Pris fy rhyddid? Cefais fy rhyddhau gyda nifer o garcharorion eraill fel rhan o fargen rhwng Llywodraeth Prydain Fawr a Llywodraeth Ffranco -Prydain yn rhoi benthyg 2,000,000 i Sbaen ac yn arwyddo cytundeb marchnata rhwng y ddwy wlad.

ON. Flynyddoedd wedyn, ym mis Gorffennaf 1974, yng Nghaernarfon, cefais fy anrhydeddu gan Lywodraeth Weriniaethol Sbaen -sydd wedi ei halltudio ers 35 mlynedd o'i gwlad ei hun, ac wedi ymsefydlu ym Mecsico -pan urddwyd fi yn Farchog y Werin Lywodraeth Sbaeneg. Cefais yr anrhydedd drwy law Mr Jack Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol.

Lleufer Cyf.XXVI. Rhif 2. 1975-76


| top | back | home |

Combating Racism and Fascism in Wales | Ymladd Ffasgiaeth a Hiliaeth yng Nghymru
Searchlight Cymru Unison House, Custom House St, Cardiff CF10 1AP | Ty UNSAIN, Heol y Tollty, Caerydydd, CF10 1AP